cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 19 Mai 2022

12:00 - 13:00, Zoom

YN BRESENNOL:     Jenny Rathbone AS (Cadeirydd), Sioned Williams AS, Heledd Roberts (swyddfa Rhun Ap Iorwerth AS)

YN BRESENNOL:     Katharine Gale - RCN Cymru, Alison Scouller - Cymdeithas Iechyd Sosialaidd Cymru, Helen Bayliss - Gynaecolegydd Ymgynghorol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, Rhianydd Williams - Swyddog Cydraddoldeb a Pholisi TUC Cymru, Amanda Davies - Ymgynghorydd Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Pauline Brelsford - Aelod Pwyllgor Abortion Rights Cardiff, Bronwen Davies - gwirfoddolwr Abortion Rights Cardiff, Rachael Clarke - Pennaeth Staff BPAS, Gemma Roberts - Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru, Deborah Shaffer - Sylfaenydd Triniaeth Deg i Ferched Cymru (FTWW), Diana Dobrzynska - Cydlynydd Gofal Cleientiaid BPAS, Charlotte Morgan - Cydlynydd Polisi a Materion Cyhoeddus Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru.

YMDDIHEURIADAU:              Rhun Ap Iorwerth AS, Delyth Jewell AS

 

1.   COFNODION y cyfarfod a gynhaliwyd 8 Gorffennaf 2021 a materion yn codi

·         Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol.

·         Ar ôl y cyfarfod blaenorol ynghylch poen yn ystod gweithdrefnau gynaecolegol i gleifion allanol, bu'r Grŵp Trawsbleidiol Iechyd Menywod yn gweithio gyda siaradwyr o'r cyfarfod hwnnw i ddatblygu tystiolaeth ar gyfer ymgynghoriad Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a Gynaecolegwyr ar ganllawiau rheoli poen ar gyfer y lleoliadau hyn.

 

2.   Y diweddaraf ar ofal erthyliad

Rhoddodd Rachael Clarke y wybodaeth ddiweddaraf am ofal erthyliad:

·         Mae gwelliant i'r Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn San Steffan yn cynnwys Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn dal i allu ymestyn terfynau amser beichiogrwydd a’r ddarpariaeth, ond mae’r hawl i ofal erthyliad telefeddygol yr un peth i fenywod yng Nghymru a Lloegr.

·         Ledled y DU cafwyd cynnydd yn nifer y bobl y mae angen erthyliad arnynt. Mae diffyg mynediad at LARC yn ystod y pandemig yn golygu bod darparwyr erthyliadau yn gweld menywod a allai fel arall fod wedi osgoi beichiogrwydd digroeso. Disgwylir i’r argyfwng costau byw hefyd gynyddu nifer y menywod sy'n gwneud cais am erthyliad.

·         Mae gwasanaethau yng Nghymru yn dal i fod dan bwysau. Mae BPAS wedi buddsoddi arian mewn sicrhau bod mwy o ymgynghoriadau ar gael i leihau amseroedd aros yng Nghaerdydd.  Nid yw rhai o’r newidiadau a ddigwyddodd o ganlyniad i COVID-19, e.e. pobl yn rhoi’r gorau i welyau gan fod eu hangen ar gyfer gwasanaethau eraill, wedi dychwelyd i’r sefyllfa cyn y pandemig.

 

3.   Cynllun iechyd merched Cymru

Debbie Shaffer, Triniaeth Deg i Ferched Cymru:

 

Cefndir a chyd-destun y Cynllun Iechyd Menywod:

·         Mae’r grŵp yn cael ei gadeirio gan FTWW a BHF, mae’n cynnwys 45+ o sefydliadau trydydd sector ac unigolion sy’n cynrychioli cleifion.

·         Yn ystod y blynyddoedd diwethaf gwelwyd mwy o ymgyrchu dros strategaethau iechyd menywod. Mae gan yr Alban a Lloegr gynlluniau ac roedd yn ymddangos nad oedd llawer o awydd yng Nghymru oherwydd cynllun Cymru Iachach.

·         Fodd bynnag, mae nifer y materion y mae menywod yn eu hwynebu wrth geisio cael cymorth yn cynyddu, ac mae angen atebion penodol i fynd i'r afael â phroblemau parhaus.

·         Mae’r cynllun Iechyd Menywod hwn i Gymru wedi’i gyd-gynhyrchu gan gleifion, clinigwyr ac elusennau ac mae’n cymryd ymagwedd cwrs bywyd a holistaidd.

 

Cynnwys y cynllun Iechyd Menywod

 

·         Mae’r ddogfen yn gynhwysfawr ac yn mynd i’r afael â themâu trawsbynciol y mae angen sylw arbennig ar eu cyfer, sef: Mynediad teg at wasanaethau arbenigol, prosesau gwell ar gyfer casglu data, cefnogaeth ar gyfer cydgynhyrchu cynaliadwy, hyfforddiant gwell i weithwyr gofal iechyd 

·         Mae atodiadau ar gyfer amrywiaeth o faterion y gellir eu defnyddio fel cynlluniau gweithredu annibynnol ar gyfer y mater neu’r cyflwr penodol hwnnw. Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr ond gellir ei defnyddio fel man cychwyn i helpu i greu ymagwedd cwrs bywyd at iechyd menywod yng Nghymru.

 

Gemma Roberts, British Heart Foundation Cymru

 

·         Dangosodd ymchwil BHF fod bwlch iechyd rhwng y rhywiau o ran gofal cardiaidd a chanlyniadau yn y maes hwnnw. Fe wnaeth hyn eu hannog i estyn allan i sefydliadau eraill i drefnu cynllun penodol i fynd i'r afael ag iechyd menywod.

·         Gweithio gyda’r Pwyllgor Iechyd a Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu cynllun iechyd merched ac mae’r Gweinidog wedi bod yn gefnogol, mae cefnogaeth drawsbleidiol fawr hefyd.

·         Bydd yr adroddiad yn cael ei lansio'n fuan a byddai cefnogaeth gyhoeddus gan y GRhG yn cael ei chroesawu er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd.

 

4.   Trafod y materion a godwyd gan y siaradwyr

 

Cydweithio a chydgynhyrchu

 

·         Trafododd yr Aelodau sut roedd cydgynhyrchu'r ddogfen hon wedi ei chryfhau a sut y gellid cefnogi cydgynhyrchu cynaliadwy o hyn ymlaen. Llongyfarchwyd FTWW a BHF am lunio dogfen mewn ffordd mor gydweithredol.

·         Nododd Abortion Rights Cardiff y byddent yn dymuno bod yn rhan o’r gwaith hwn o hyn ymlaen, mae FTWW yn croesawu aelodaeth gan unrhyw un a hoffai fod yn rhan ohono.

·         Trafodwyd pa mor bwysig yw penderfynu ar yr hyn a olygir wrth gydgynhyrchu, sut i ddarparu adnoddau ar ei gyfer, a sicrhau ei fod yn elfen allweddol o waith cynllunio a darparu gwasanaethau iechyd. Rhaid i ni nodi eiriolwyr, rhwydweithiau a chymunedau allweddol a chefnogi’r llywodraeth a chlinigwyr i gydweithio – tynnodd RCN sylw at waith cydgynhyrchu ar gyfer nyrsys endometriosis fel enghraifft dda.

·         Cadarnhaodd FTWW a BHF fod yr holl randdeiliaid a oedd yn ymwneud â chynhyrchu wedi cymeradwyo'r cynllun terfynol.

 

Cyd-destun gwleidyddol a pholisi

 

·         Awgrymodd JR fod lansio'r cynllun hwn yn foment i adfer gobaith pobl a rhoi cyfle iddynt ddylanwadu ar y gwasanaethau sy'n effeithio ar eu bywydau.

·         Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi datganiad ansawdd ar gyfer iechyd menywod ym mis Gorffennaf, gyda chynllun llawnach i ddilyn yn yr hydref. Bydd y datganiad ansawdd yn cwmpasu'r pum mlynedd nesaf ac nid oes modd dylanwadu ar y datganiad ansawdd ar ôl ei gyhoeddi, felly ffocws y gwaith dylanwadu fydd sut y bydd y datganiad ansawdd hwn yn cael ei ddatblygu.

·         Amlygodd TUC y cyd-destun polisi, ar hyn o bryd mae'r Strategaeth Urddas Mislif, y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol a'r cynllun gweithredu LGBTQ+ ar waith, ac mae iechyd menywod wedi’i leoli yng nghyd-destun yr holl gynlluniau hyn. A fydd darn o waith cwmpasu i sicrhau bod y cynlluniau hyn yn gweithio gyda'i gilydd a'u bod mor groestoriadol â phosibl?

·         Ymatebodd FTWW drwy ddweud bod y ddogfen yn ei gwneud yn glir y dylai ymarfer cwmpasu fod yr elfen gyntaf o unrhyw gynllun gan y llywodraeth.

·         BHF: Mae diffyg data BAME yn rhwystr i greu strategaethau iechyd mwy cynhwysol a chroestoriadol. Tynnodd JR sylw at yr Uned Casglu Data a sefydlwyd ar gyfer y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella'r broses o gasglu data.

·         Gofynnodd Cymdeithas Iechyd Sosialaidd Cymru i FTWW a BHF fynd i grŵp menywod y Blaid Lafur i roi cyflwyniad tebyg.

 

5.   Unrhyw fater arall

·         Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn adnewyddu'r rhestr bostio ar gyfer y Grŵp Trawsbleidiol. Cysylltwch gydag unrhyw sylwadau am aelodau newydd y Grŵp Trawsbleidiol.

·         Rhannodd JR ddiolch i Rachael Clarke a BPAS am y gwaith maent wedi'i wneud i sicrhau llwyddiant telefeddygaeth yng Nghymru.

 

6.   Cyfarfodydd yn y dyfodol:

Cyfarfod nesaf: Pwnc: Trosolwg o iechyd menywod ac edrych i’r dyfodol gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan.

Cyfle i'r GRhG drafod cynlluniau'r Llywodraeth gyda'r Gweinidog. Awgrymodd JR y byddai'n dda gwahodd y Grŵp Gweithredu Iechyd Menywod. Gofynnodd FTWW a fyddai modd estyn gwahoddiad i wasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru.